11 Myfi yw'r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid.
12 Eithr y gwas cyflog, a'r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a'r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu'r defaid.
13 Y mae'r gwas cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid.
14 Myfi yw'r bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a'm hadwaenir gan yr eiddof fi.
15 Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau'r Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid.
16 A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o'r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a'm llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail.
17 Am hyn y mae'r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn.