15 Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau'r Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid.
16 A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o'r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a'm llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail.
17 Am hyn y mae'r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn.
18 Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i'w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i'w chymryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.
19 Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn.
20 A llawer ohonynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandewch chwi arno ef?
21 Eraill a ddywedasant, Nid yw'r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. A all cythraul agoryd llygaid y deillion?