22 Ac yr oedd y gysegr‐ŵyl yn Jerwsalem, a'r gaeaf oedd hi.
23 Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y deml, ym mhorth Solomon.
24 Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef, ac a ddywedasant wrtho, Pa hyd yr wyt yn peri i ni amau? os tydi yw'r Crist, dywed i ni yn eglur.
25 Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, y mae y rhai hynny yn tystiolaethu amdanaf fi.
26 Ond chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych chwi o'm defaid i, fel y dywedais i chwi.
27 Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; a mi a'u hadwaen hwynt, a hwy a'm canlynant i:
28 A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i.