28 A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i.
29 Fy Nhad i, yr hwn a'u rhoddes i mi, sydd fwy na phawb: ac nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i.
30 Myfi a'r Tad un ydym.
31 Am hynny y cododd yr Iddewon gerrig drachefn i'w labyddio ef.
32 Yr Iesu a atebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba un o'r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i?
33 Yr Iddewon a atebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw.
34 Yr Iesu a atebodd iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mi a ddywedais, Duwiau ydych?