30 Myfi a'r Tad un ydym.
31 Am hynny y cododd yr Iddewon gerrig drachefn i'w labyddio ef.
32 Yr Iesu a atebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba un o'r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i?
33 Yr Iddewon a atebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw.
34 Yr Iesu a atebodd iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mi a ddywedais, Duwiau ydych?
35 Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, (a'r ysgrythur nis gellir ei thorri;)
36 A ddywedwch chwi am yr hwn a sancteiddiodd y Tad, ac a'i hanfonodd i'r byd, Yr wyt ti yn cablu; am i mi ddywedyd, Mab Duw ydwyf?