39 Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef: ac efe a ddihangodd allan o'u dwylo hwynt.
40 Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iorddonen, i'r man lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno.
41 A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd: ond yr holl bethau a'r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir.
42 A llawer yno a gredasant ynddo.