8 Cynifer oll ag a ddaethant o'm blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt.
9 Myfi yw'r drws: os â neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig; ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa.
10 Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach.
11 Myfi yw'r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid.
12 Eithr y gwas cyflog, a'r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a'r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu'r defaid.
13 Y mae'r gwas cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid.
14 Myfi yw'r bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a'm hadwaenir gan yr eiddof fi.