1 Ac yr oedd un yn glaf, Lasarus o Fethania, o dref Mair a'i chwaer Martha.
2 (A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf.)
3 Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae'r hwn sydd hoff gennyt ti, yn glaf.
4 A'r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw'r clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny.