15 Ac y mae'n llawen gennyf nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi, fel y credoch; ond awn ato ef.
16 Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd‐ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag ef.
17 Yna yr Iesu wedi dyfod, a'i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd.
18 A Bethania oedd yn agos i Jerwsalem, ynghylch pymtheg ystad oddi wrthi:
19 A llawer o'r Iddewon a ddaethent a Martha a Mair, i'w cysuro hwy am eu brawd.
20 Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod, a aeth i'w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ.
21 Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd.