20 Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod, a aeth i'w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ.
21 Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd.
22 Eithr mi a wn hefyd yr awron, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti.
23 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Atgyfodir dy frawd drachefn.
24 Dywedodd Martha wrtho, Myfi a wn yr atgyfodir ef yn yr atgyfodiad, y dydd diwethaf.
25 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw'r atgyfodiad, a'r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw:
26 A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti'n credu hyn?