26 A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti'n credu hyn?
27 Dywedodd hithau wrtho, Ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi yn credu mai ti yw'r Crist, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i'r byd.
28 Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw amdanat.
29 Cyn gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef.
30 (A'r Iesu ni ddaethai eto i'r dref, ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasai Martha ag ef.)
31 Yna yr Iddewon y rhai oedd gyda hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frys, ac yn myned allan, a'i canlynasant hi, gan ddywedyd, Y mae hi'n myned at y bedd, i wylo yno.
32 Yna Mair, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu, a'i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw.