48 Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw'r Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a'n cenedl hefyd.
49 A rhyw un ohonynt, Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi'n gwybod dim oll,
50 Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl.
51 Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun: eithr, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, efe a broffwydodd y byddai'r Iesu farw dros y genedl;
52 Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid.
53 Yna o'r dydd hwnnw allan y cyd-ymgyngorasant fel y lladdent ef.
54 Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ymysg yr Iddewon; ond efe a aeth oddi yno i'r wlad yn agos i'r anialwch, i ddinas a elwir Effraim, ac a arhosodd yno gyda'i ddisgyblion.