5 A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a'i chwaer, a Lasarus.
6 Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod.
7 Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Jwdea drachefn.
8 Y disgyblion a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn?
9 Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr o'r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni'r byd hwn:
10 Ond os rhodia neb y nos, efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo.
11 Hyn a lefarodd efe: ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno; ond yr wyf fi'n myned i'w ddihuno ef.