51 Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun: eithr, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, efe a broffwydodd y byddai'r Iesu farw dros y genedl;
52 Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid.
53 Yna o'r dydd hwnnw allan y cyd-ymgyngorasant fel y lladdent ef.
54 Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ymysg yr Iddewon; ond efe a aeth oddi yno i'r wlad yn agos i'r anialwch, i ddinas a elwir Effraim, ac a arhosodd yno gyda'i ddisgyblion.
55 A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a llawer a aethant o'r wlad i fyny i Jerwsalem o flaen y pasg, i'w glanhau eu hunain.
56 Yna y ceisiasant yr Iesu; a dywedasant wrth ei gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i'r ŵyl?
57 A'r archoffeiriaid a'r Phariseaid a roesant orchymyn, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, ar fynegi ohono, fel y gallent ei ddal ef.