7 Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Jwdea drachefn.
8 Y disgyblion a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn?
9 Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr o'r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni'r byd hwn:
10 Ond os rhodia neb y nos, efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo.
11 Hyn a lefarodd efe: ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno; ond yr wyf fi'n myned i'w ddihuno ef.
12 Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach.
13 Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd.