1 Yna yr Iesu, chwe diwrnod cyn y pasg, a ddaeth i Fethania, lle yr oedd Lasarus, yr hwn a fuasai farw, yr hwn a godasai efe o feirw.
2 Ac yno y gwnaethant iddo swper; a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lasarus oedd un o'r rhai a eisteddent gydag ef.
3 Yna y cymerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a eneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt: a'r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint.
4 Am hynny y dywedodd un o'i ddisgyblion ef, Jwdas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef,
5 Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chan ceiniog, a'i roddi i'r tlodion?