15 Nac ofna, ferch Seion: wele, y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd ar ebol asyn.
16 Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt wneuthur hyn iddo.
17 Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gydag ef pan alwodd efe Lasarus o'r bedd, a'i godi ef o feirw.
18 Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef, am glywed ohonynt iddo wneuthur yr arwydd hwn.
19 Y Phariseaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, A welwch chwi nad ydych yn tycio dim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef.
20 Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl:
21 Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea, ac a ddymunasant arno, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu.