23 A'r Iesu a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn.
24 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer.
25 Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a'i cyll hi; a'r hwn sydd yn casáu ei einioes yn y byd hwn, a'i ceidw hi i fywyd tragwyddol.
26 Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tad a'i hanrhydedda ef.
27 Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o'r awr hon: eithr oherwydd hyn y deuthum i'r awr hon.
28 O Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o'r nef, Mi a'i gogoneddais, ac a'i gogoneddaf drachefn.
29 Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho.