27 Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o'r awr hon: eithr oherwydd hyn y deuthum i'r awr hon.
28 O Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o'r nef, Mi a'i gogoneddais, ac a'i gogoneddaf drachefn.
29 Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho.
30 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Nid o'm hachos i y bu'r llef hon, ond o'ch achos chwi.
31 Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn.
32 A minnau, os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun.
33 (A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angau y byddai farw.)