3 Yna y cymerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a eneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt: a'r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint.
4 Am hynny y dywedodd un o'i ddisgyblion ef, Jwdas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef,
5 Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chan ceiniog, a'i roddi i'r tlodion?
6 Eithr hyn a ddywedodd efe, nid oherwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a bod ganddo'r pwrs, a'i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo.
7 A'r Iesu a ddywedodd, Gad iddi: erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn.
8 Canys y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser; eithr myfi nid oes gennych bob amser.
9 Gwybu gan hynny dyrfa fawr o'r Iddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lasarus hefyd, yr hwn a godasai efe o feirw.