36 Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.
37 Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, ni chredasant ynddo:
38 Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i'n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?
39 Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Eseias drachefn,
40 Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â'u llygaid, a deall â'u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi eu hiacháu hwynt.
41 Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef.
42 Er hynny llawer o'r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o'r synagog: