41 Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef.
42 Er hynny llawer o'r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o'r synagog:
43 Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw.
44 A'r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a'm hanfonodd i.
45 A'r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a'm danfonodd i.
46 Mi a ddeuthum yn oleuni i'r byd, fel y bo i bob un a'r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch.
47 Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddeuthum i farnu'r byd, eithr i achub y byd.