5 Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chan ceiniog, a'i roddi i'r tlodion?
6 Eithr hyn a ddywedodd efe, nid oherwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a bod ganddo'r pwrs, a'i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo.
7 A'r Iesu a ddywedodd, Gad iddi: erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn.
8 Canys y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser; eithr myfi nid oes gennych bob amser.
9 Gwybu gan hynny dyrfa fawr o'r Iddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lasarus hefyd, yr hwn a godasai efe o feirw.
10 Eithr yr archoffeiriaid a ymgyngorasant fel y lladdent Lasarus hefyd:
11 Oblegid llawer o'r Iddewon a aethant ymaith o'i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu.