15 Canys rhoddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi.
16 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid yw'r gwas yn fwy na'i arglwydd; na'r hwn a ddanfonwyd yn fwy na'r hwn a'i danfonodd.
17 Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.
18 Nid wyf fi yn dywedyd amdanoch oll; mi a wn pwy a etholais: ond fel y cyflawnid yr ysgrythur, Yr hwn sydd yn bwyta bara gyda mi, a gododd ei sawdl yn fy erbyn.
19 Yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch mai myfi yw efe.
20 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi, sydd yn fy nerbyn i; a'r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.
21 Wedi i'r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, y bradycha un ohonoch fi.