2 Ac wedi darfod swper, wedi i ddiafol eisoes roi yng nghalon Jwdas Iscariot, mab Simon, ei fradychu ef;
3 Yr Iesu yn gwybod roddi o'r Tad bob peth oll yn ei ddwylo ef, a'i fod wedi dyfod oddi wrth Dduw, ac yn myned at Dduw;
4 Efe a gyfododd oddi ar swper, ac a roes heibio ei gochlwisg, ac a gymerodd dywel, ac a ymwregysodd.
5 Wedi hynny efe a dywalltodd ddwfr i'r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y disgyblion, a'u sychu â'r tywel, â'r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu.
6 Yna y daeth efe at Simon Pedr: ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, a wyt ti'n golchi fy nhraed i?
7 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awron: eithr ti a gei wybod ar ôl hyn.
8 Pedr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Iesu a atebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyda myfi.