23 Ac yr oedd un o'i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu.
24 Am hynny yr amneidiodd Simon Pedr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd efe, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd.
25 Ac yntau'n pwyso ar ddwyfron yr Iesu, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe?
26 Yr Iesu a atebodd, Hwnnw yw efe, i'r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu'r tamaid, efe a'i rhoddodd i Jwdas Iscariot, mab Simon.
27 Ac ar ôl y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys.
28 Ac ni wyddai neb o'r rhai oedd yn eistedd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho.
29 Canys rhai oedd yn tybied, am fod Jwdas a'r god ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Prŷn y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn yr ŵyl; neu, ar roi ohono beth i'r tlodion.