28 Ac ni wyddai neb o'r rhai oedd yn eistedd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho.
29 Canys rhai oedd yn tybied, am fod Jwdas a'r god ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Prŷn y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn yr ŵyl; neu, ar roi ohono beth i'r tlodion.
30 Yntau gan hynny, wedi derbyn y tamaid, a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi'n nos.
31 Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef.
32 Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a'i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a'i gogonedda ef yn ebrwydd.
33 O blant bychain, eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi. Chwi a'm ceisiwch: ac, megis y dywedais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron.
34 Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu ohonoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd.