10 Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.
11 Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof finnau: ac onid e, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain.
12 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a'u gwna, a mwy na'r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad.
13 A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab.
14 Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a'i gwnaf.
15 O cherwch fi, cedwch fy ngorchmynion.
16 A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol;