16 A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol;
17 Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a'i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe.
18 Ni'ch gadawaf chwi yn amddifaid: mi a ddeuaf atoch chwi.
19 Eto ennyd bach, a'r byd ni'm gwêl mwy; eithr chwi a'm gwelwch: canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd.
20 Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau.
21 Yr hwn sydd â'm gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw'r hwn sydd yn fy ngharu i: a'r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a'i caraf ef, ac a'm hegluraf fy hun iddo.
22 Dywedodd Jwdas wrtho, (nid yr Iscariot,) Arglwydd, pa beth yw'r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i'r byd?