19 Eto ennyd bach, a'r byd ni'm gwêl mwy; eithr chwi a'm gwelwch: canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd.
20 Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau.
21 Yr hwn sydd â'm gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw'r hwn sydd yn fy ngharu i: a'r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a'i caraf ef, ac a'm hegluraf fy hun iddo.
22 Dywedodd Jwdas wrtho, (nid yr Iscariot,) Arglwydd, pa beth yw'r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i'r byd?
23 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a'm Tad a'i câr yntau, a nyni a ddeuwn ato, ac a wnawn ein trigfa gydag ef.
24 Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: a'r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo'r Tad a'm hanfonodd i.
25 Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyda chwi.