2 Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi.
3 Ac os myfi a af, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a'ch cymeraf chwi ataf fy hun; fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd.
4 Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch, a'r ffordd a wyddoch.
5 Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn wybod y ffordd?
6 Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw'r ffordd, a'r gwirionedd, a'r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwof fi.
7 Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd a adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a'i gwelsoch ef.
8 Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni.