26 Eithr y Diddanydd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi'r holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi'r holl bethau a ddywedais i chwi.
27 Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned.
28 Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad: canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi.
29 Ac yr awron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch.
30 Nid ymddiddanaf â chwi nemor bellach: canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynof fi.
31 Ond fel y gwypo'r byd fy mod i yn caru'r Tad, ac megis y gorchmynnodd y Tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma.