7 Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd a adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a'i gwelsoch ef.
8 Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni.
9 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb a'm gwelodd i, a welodd y Tad: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad?
10 Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.
11 Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof finnau: ac onid e, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain.
12 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a'u gwna, a mwy na'r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad.
13 A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab.