9 Fel y carodd y Tad fi, felly y cerais innau chwithau: arhoswch yn fy nghariad i.
10 Os cedwch fy ngorchmynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad; fel y cedwais i orchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.
11 Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhosai fy llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn.
12 Dyma fy ngorchymyn i; Ar i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi.
13 Cariad mwy na hwn nid oes gan neb; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion.
14 Chwychwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi.
15 Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; oblegid y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a'ch gelwais chwi yn gyfeillion; oblegid pob peth a'r a glywais gan fy Nhad, a hysbysais i chwi.