10 O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni'm gwelwch i mwyach;
11 O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd.
12 Y mae gennyf eto lawer o bethau i'w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron.
13 Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a'ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono'i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a'r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi.
14 Efe a'm gogonedda i: canys efe a gymer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi.
15 Yr holl bethau sydd eiddo'r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o'r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi.
16 Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch: am fy mod yn myned at y Tad.