21 Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni'r plentyn, nid yw hi'n cofio'i gofid mwyach, gan lawenydd geni dyn i'r byd.
22 A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a'ch calon a lawenycha, a'ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch.
23 A'r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i'r Tad yn fy enw, efe a'u rhydd i chwi.
24 Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
25 Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae'r awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tad.
26 Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddïaf fi ar y Tad trosoch:
27 Canys y Tad ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw.