5 Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti'n myned?
6 Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon.
7 Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw'r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a'i hanfonaf ef atoch.
8 A phan ddêl, efe a argyhoedda'r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn:
9 O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi:
10 O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni'm gwelwch i mwyach;
11 O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd.