10 Simon Pedr gan hynny a chanddo gleddyf, a'i tynnodd ef, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef: ac enw'r gwas oedd Malchus.
11 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth Pedr, Dod dy gleddyf yn y wain: y cwpan a roddes y Tad i mi, onid yfaf ef?
12 Yna'r fyddin, a'r milwriad, a swyddogion yr Iddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a'i rhwymasant ef,
13 Ac a'i dygasant ef at Annas yn gyntaf: canys chwegrwn Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, ydoedd efe.
14 A Chaiaffas oedd yr hwn a gyngorasai i'r Iddewon, mai buddiol oedd farw un dyn dros y bobl.
15 Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu, Simon Pedr, a disgybl arall: a'r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, ac efe a aeth i mewn gyda'r Iesu i lys yr archoffeiriad.
16 A Phedr a safodd wrth y drws allan. Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Pedr i mewn.