21 Paham yr wyt ti yn gofyn i mi? gofyn i'r rhai a'm clywsant, beth a ddywedais wrthynt: wele, y rhai hynny a wyddant pa bethau a ddywedais i.
22 Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, un o'r swyddogion a'r oedd yn sefyll gerllaw, a roddes gernod i'r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti'n ateb yr archoffeiriad?
23 Yr Iesu a atebodd iddo, Os drwg y dywedais, tystiolaetha o'r drwg; ac os da, paham yr wyt yn fy nharo i?
24 Ac Annas a'i hanfonasai ef yn rhwym at Caiaffas yr archoffeiriad.
25 A Simon Pedr oedd yn sefyll, ac yn ymdwymo. Hwythau a ddywedasant wrtho, Onid wyt tithau hefyd o'i ddisgyblion ef? Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nac wyf.
26 Dywedodd un o weision yr archoffeiriad, (câr i'r hwn y torasai Pedr ei glust,) Oni welais i di gydag ef yn yr ardd?
27 Yna Pedr a wadodd drachefn; ac yn y man y canodd y ceiliog.