5 Hwy a atebasant iddo, Iesu o Nasareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Jwdas, yr hwn a'i bradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyda hwynt.
6 Cyn gynted gan hynny ag y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn wysg eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr.
7 Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nasareth.
8 Yr Iesu a atebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i'r rhai hyn fyned ymaith:
9 Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe, O'r rhai a roddaist i mi, ni chollais i'r un.
10 Simon Pedr gan hynny a chanddo gleddyf, a'i tynnodd ef, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef: ac enw'r gwas oedd Malchus.
11 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth Pedr, Dod dy gleddyf yn y wain: y cwpan a roddes y Tad i mi, onid yfaf ef?