18 Lle y croeshoeliasant ef, a dau eraill gydag ef, un o bob tu, a'r Iesu yn y canol.
19 A Pheilat a ysgrifennodd deitl, ac a'i dododd ar y groes. A'r ysgrifen oedd, IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON.
20 Y teitl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o'r Iddewon; oblegid agos i'r ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, Groeg, a Lladin.
21 Yna archoffeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Peilat, Nac ysgrifenna Brenin yr Iddewon; eithr dywedyd ohono ef, Brenin yr Iddewon ydwyf fi.
22 Peilat a atebodd, Yr hyn a ysgrifennais, a ysgrifennais.
23 Yna y milwyr, wedi iddynt groeshoelio'r Iesu, a gymerasant ei ddillad ef, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran; a'i bais ef: a'i bais ef oedd ddiwnïad, wedi ei gwau o'r cwr uchaf trwyddi oll.
24 Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goelbrennau amdani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr ysgrythur sydd yn dywedyd, Rhanasant fy nillad yn eu mysg, ac am fy mhais y bwriasant goelbrennau. A'r milwyr a wnaethant y pethau hyn.