39 A daeth Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos,) ac a ddug fyrr ac aloes yng nghymysg, tua chan pwys.
40 Yna y cymerasant gorff yr Iesu, ac a'i rhwymasant mewn llieiniau, gydag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu.
41 Ac yn y fangre lle y croeshoeliasid ef, yr oedd gardd; a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed.
42 Ac yno, rhag nesed oedd darpar‐ŵyl yr Iddewon, am fod y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.