1 A'r trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea: a mam yr Iesu oedd yno.
2 A galwyd yr Iesu hefyd a'i ddisgyblion i'r briodas.
3 A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt mo'r gwin.
4 Iesu a ddywedodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? ni ddaeth fy awr i eto.