12 Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum, efe, a'i fam, a'i frodyr, a'i ddisgyblion: ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau.
13 A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a'r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem;
14 Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a'r newidwyr arian yn eistedd.
15 Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a'u gyrrodd hwynt oll allan o'r deml, y defaid hefyd a'r ychen; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau:
16 Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad.
17 A'i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Sêl dy dŷ di a'm hysodd i.
18 Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn?