2 A galwyd yr Iesu hefyd a'i ddisgyblion i'r briodas.
3 A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt mo'r gwin.
4 Iesu a ddywedodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? ni ddaeth fy awr i eto.
5 Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch.
6 Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri meini wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob un ddau ffircyn neu dri.
7 Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfrlestri o ddwfr. A hwy a'u llanwasant hyd yr ymyl.
8 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant.