20 Yna yr Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac a gyfodi di hi mewn tridiau?
21 Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff.
22 Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr ysgrythur, a'r gair a ddywedasai yr Iesu.
23 Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y pasg yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe.
24 Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun, am yr adwaenai efe hwynt oll;
25 Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn: oherwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.