16 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Mair. Hithau a droes, ac a ddywedodd wrtho, Rabboni; yr hyn yw dywedyd, Athro.
17 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Na chyffwrdd â mi; oblegid ni ddyrchefais i eto at fy Nhad: eithr dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn dyrchafu at fy Nhad i a'ch Tad chwithau, a'm Duw i a'ch Duw chwithau.
18 Mair Magdalen a ddaeth ac a fynegodd i'r disgyblion, weled ohoni hi yr Arglwydd, a dywedyd ohono y pethau hyn iddi.
19 Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, a'r drysau yn gaead lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.
20 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a'i ystlys. Yna y disgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd.
21 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi: megis y danfonodd y Tad fi, yr wyf finnau yn eich danfon chwi.
22 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Ysbryd Glân.