23 Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a'r eiddo pwy bynnag a atalioch, hwy a ataliwyd.
24 Eithr Thomas, un o'r deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu.
25 Y disgyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho, Ni a welsom yr Arglwydd. Yntau a ddywedodd wrthynt, Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoelion, a dodi fy mys yn ôl yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi.
26 Ac wedi wyth niwrnod drachefn yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn, a Thomas gyda hwynt. Yna yr Iesu a ddaeth, a'r drysau yn gaead, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangnefedd i chwi.
27 Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, Moes yma dy fys, a gwêl fy nwylo; ac estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd anghredadun, ond credadun.
28 A Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd, a'm Duw.
29 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Am i ti fy ngweled, Thomas, y credaist: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.