27 Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, Moes yma dy fys, a gwêl fy nwylo; ac estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd anghredadun, ond credadun.
28 A Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd, a'm Duw.
29 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Am i ti fy ngweled, Thomas, y credaist: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.
30 A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
31 Eithr y pethau hyn a ysgrifennwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Crist, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef.