1 Gwedi'r pethau hyn, yr Iesu a ymddangosodd drachefn i'w ddisgyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymddangosodd.
2 Yr oedd ynghyd Simon Pedr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanael o Gana yng Ngalilea, a meibion Sebedeus, a dau eraill o'i ddisgyblion ef.
3 Dywedodd Simon Pedr wrthynt, Yr wyf fi yn myned i bysgota. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyda thi. A hwy a aethant allan, ac a ddringasant i long yn y man: a'r nos honno ni ddaliasant ddim.
4 A phan ddaeth y bore weithian, safodd yr Iesu ar y lan; eithr y disgyblion ni wyddent mai yr Iesu ydoedd.